Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 2
Chwefror 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am daliad y cynllun cymorth tanwydd gaeaf?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gordewdra
(30 munud)
NDM7903 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi ei phryder bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd.
2. Yn nodi bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n byw gyda gordewdra, a bod gan fwy na hanner y bobl sy'n cael eu derbyn i ofal critigol BMI o dros 30.
3. Yn nodi ymhellach bod gwasanaethau rheoli pwysau wedi'u hoedi neu eu haddasu wrth i GIG Cymru drin cleifion COVID.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ailagor ar frys y gwasanaethau rheoli pwysau hynny sydd wedi'u oedi yn ystod y pandemig;
b) nodi pryd y bydd gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yn cael eu hehangu ledled Cymru; ac
c) darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau rheoli pwysau yn gallu ymdopi â'r angen cynyddol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) y cynllun cyflawni newydd 2022-24, y bwriedir ei lansio ar 1 Mawrth, sy’n cefnogi’r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Ei nod fydd atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf.
b) y buddsoddiad o £5.8m mewn gwasanaethau gordewdra yn sgil y cynllun, i alluogi byrddau iechyd i gyflawni Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan ar ei newydd wedd a gwasanaethau cyfartal, gan gynnwys gwasanaethau rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yng Nghymru.
Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach
Gwelliant 2 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mesurau ataliol i leihau gordewdra yng Nghymru, fel:
a) buddsoddi mewn adnoddau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob cymuned;
b) gwella addysg iechyd;
c) cynyddu'r amser a ddyrennir i wersi addysg gorfforol mewn ysgolion.
d) Ymchwilio i'r defnydd o offer trethu i annog deiet gwell.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
(30 munud)
NDM7905 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr effaith y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei chael ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chamddefnyddio sylweddau yn ddiweddarach mewn bywyd.
2. Yn credu y dylid rhoi mwy o ffocws i atal cam-drin ac esgeuluso plant na delio â'r canlyniadau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o 70 y cant ar gyfer lleihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod erbyn 2030.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Siân Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1, a rhoi yn ei le:
Yn credu bod rhaid blaenoriaethu taclo trallod yn ystod plentyndod ac ymyrraeth gynnar os am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru.
Yn nodi’r dystiolaeth bod cynnydd wedi bod mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ganlyniad i COVID-19.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3.
Gwelliant 3 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd targedau pendant yn y cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gaiff ei gyhoeddi’r haf hwn i fesur effeithiolrwydd y cynllun.
Gwelliant 4 Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd
(60 munud)
NDM7904 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar 70 mlwyddiant ei hesgyniad i'r orsedd.
8 Dadl Plaid Cymru - Stelcio
(60 munud)
NDM7906 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y cynnydd mewn trais ac aflonyddu yn erbyn menywod, gan nodi bod troseddau stelcio a adroddwyd i'r heddlu wedi cynyddu 30 y cant yng Nghymru rhwng 2020 a 2021.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r cwricwlwm newydd ac adnoddau eraill i feithrin diwylliant sy'n atal achosion o stelcio yn y lle cyntaf;
b) llunio canllawiau ar gyfer cyrff cynllunio sy'n sicrhau bod diogelwch menywod yn cael ei ystyried wrth ddylunio mannau cyhoeddus;
c) gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i wella'r ffordd y mae'r heddlu'n ymdrin â stelcio, gan sicrhau bod yr heddlu'n cael eu hyfforddi i ymdrin â gwir natur stelcio a bod gorchmynion amddiffyn rhag stelcio yn cael eu defnyddio;
d) darparu cymorth arbenigol i oroeswyr stelcio;
e) ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru fel y gall fynd i'r afael yn llawn â throsedd stelcio a gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu Deddf Diogelu Rhag Stelcian 2019 a'r diwygiad i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr.
Deddf Diogelu Rhag Stelcian 2019 (Saesneg yn unig)
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2 (c), ar ôl 'gweithio gyda' rhoi 'lluoedd heddlu a'
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (e) a rhoi yn ei le:
'sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled Cymru'
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022